Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 4, Tŷ Hywel

Dyddiad: Dydd Llun, 23 Mehefin 2025

Amser: 13.01 - 14.48
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
15136


Hybrid

------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau o’r Senedd:

Mike Hedges AS (Cadeirydd)

John Griffiths AS (yn lle Alun Davies AS)

Samuel Kurtz AS

Adam Price AS

Tystion:

Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, a Thai

Sarah Rhodes, Llywodraeth Cymru

Hannah Fisher, Llywodraeth Cymru

Julie Stokes, Llywodraeth Cymru

Staff y Pwyllgor:

P Gareth Williams (Clerc)

Gerallt Roberts (Ail Glerc)

Sarah Sargent (Ail Glerc)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cafwyd ymddiheuriadau gan Alun Davies AS; dirprwyodd John Griffiths AS ar gyfer eitemau 1 a 2.

</AI1>

<AI2>

2       Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru): Sesiwn dystiolaeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol ar y Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru).

</AI2>

<AI3>

3       Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.

</AI3>

<AI4>

3.1   SL(6)618 – Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2025

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

</AI4>

<AI5>

3.2   SL(6)619 - Rheoliadau Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (Eithriadau ac Amrywio Terfynau Gwariant Ymgyrch) (Cymru) 2025

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

</AI5>

<AI6>

4       Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

Nid oedd eitemau busnes i’w trafod.

</AI6>

<AI7>

5       Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd eisoes

</AI7>

<AI8>

5.1   SL(6)615 - Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025

Nododd y Pwyllgor ei lythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai.

</AI8>

<AI9>

6       Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

</AI9>

<AI10>

6.1   Gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru: Cyfarfodydd y grwpiau rhyngweinidogol

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth Lywodraeth Cymru mewn perthynas â chyfarfod y Grŵp Rhyngweinidogol ar Gyfiawnder.

</AI10>

<AI11>

7       Papurau i’w nodi

</AI11>

<AI12>

7.1   Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar Fil Diogelwch y Ffin, Lloches a Mewnfudo

Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor.

</AI12>

<AI13>

7.2   Gohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru (Memorandwm Rhif 3 a Memorandwm Rhif 4) ar y Bil Data (Defnydd a Mynediad)

Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor.

</AI13>

<AI14>

7.3   Gohebiaeth a Datganiad Ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni:  Y Bil drafft Cynllunio (Cymru)

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a’r Datganiad Ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni.

</AI14>

<AI15>

8       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Derbyniwyd y cynnig.

</AI15>

<AI16>

9       Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru): Trafod y dystiolaeth

Trafododd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai ar y Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru).

</AI16>

<AI17>

10    Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol ar Orchymyn Diwygio Deddfwriaethol (Datgelu Data Gofal Cymdeithasol Oedolion) 2025

Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol a chytunwyd i drafod adroddiad drafft yn ei gyfarfod nesaf.

</AI17>

<AI18>

11    Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Dioddefwyr a Llysoedd

Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunwyd i drafod adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.

</AI18>

<AI19>

12    Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Iechyd Meddwl: Adroddiad drafft

Cytunodd y Pwyllgor ar ei adroddiad drafft, yn amodol ar fân newidiadau.

</AI19>

<AI20>

13    Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Gwasanaethau Bysiau (Rhif 2)

Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol, a chytunodd i drafod adroddiad drafft yn ei gyfarfod nesaf.

</AI20>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>